Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad |
---|---|
Dyddiad | 22 Mai 1990 |
Proses wleidyddol oedd uno'r ddwy Iemen a ddigwyddodd ar 22 Mai 1990, gan greu Gweriniaeth Iemen.
Cafodd y wlad ei rhannu ers y 1830au, pan gafodd Aden a'r tiroedd cyfagos yn ne Iemen eu meddiannu gan yr Ymerodraeth Brydeinig. Roedd y gogledd dan reolaeth Ymerodraeth yr Otomaniaid hyd at chwalu'r ymerodraeth honno yn y 1920au. Parhaodd y de dan lywodraeth y Prydeinwyr, fel Trefedigaeth Aden ac Undeb yr Emiradau Arabaidd Deheuol. Cychwynnodd gwrthryfel dros annibyniaeth yn y de ym 1963, a gadawodd lluoedd Prydeinig y wlad ym 1967. Sefydlwyd Gweriniaeth Pobl Iemen, neu Dde Iemen, dan nawdd yr Undeb Sofietaidd. Ers hynny, bu ymdrechion i uno'r ddwy weriniaeth ynghyd â gwrthdaro rhyngddynt.
Ym 1979 arwyddwyd cytundeb rhwng y ddau arlywydd i sefydlu cyd-bwyllgor cyfansoddiadol. Daeth yr uniad yn agosach ym 1988, yn sgil dadfilwroli'r ffin rhwng y gogledd a'r de.[1]